About Us
Translation to follow...
Blaenoriaeth Cylch Meithrin Bethel yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn – cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial. Mae’r ystafell yn cynnwys offer, teganau ac adnoddau o’r ansawdd uchaf, sy’n adlewyrchu anghenion, datblygiad ac oedran y plant. Cyflwynir gweithgareddau i’r plant dros 2 a hanner oed, sy’n hyrwyddo’r Cyfnod Sylfaen 3-7oed (y cwricwlwm blynyddoedd cynnar cenedlaethol) er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cychwyn gorau posib ymhob agwedd o’u haddysg. Byddwn yn rhoi sylw manwl i gynllunio’r mannau chwarae tu allan, er mwyn cynnig cyfleoedd a gosod pwyslais ar weithgareddau ysgogol i blant yn yr awyr agored.
Mae staff cymwys a phrofiadol yn gyfrifol am sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal a sylw tyner a phriodol. Rhoddir ystyriaeth i anghenion a datblygiad pob plentyn unigol yn cynnwys cymdeithasu, dysgu a chwarae.
Trwy gofrestru eich plentyn yng Nghylch Meithrin Bethel, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd camau bychain cyntaf eich plentyn yn rhai sicr a hyderus.
