Hafan > Sesiynnau > Cylch Meithrin
Cylch Meithrin
Nod ac Amcanion
Nod Cylch Meithrin Bethel yw darparu gofal sesiynol ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg o ansawdd i fechgyn a merched o 2 flwydd a hanner oed hyd at oed dosbarth Meithrin ysgol.
Nifer y Plant
Mae’r Cylch â’r hawl i dderbyn 19 o blant i bob sesiwn.
Oriau Agor
Bydd y ddarpariaeth ar agor am sesiynau o 2 awr dydd Llun-Gwener rhwng 8:45-10:45 dros 39 wythnos y flwyddyn ac eithrio’r Gwyliau Banc, yn unol â gwyliau ysgol y cyngor sir lle lleolir y Cylch.
Y gost am yr wythnos yw £40 yr wythnos.
